Dros £8.3 miliwn o ariannu Loteri Genedlaethol wedi’i ddyfarnu i daclo digartrefedd yng Nghymru

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn falch i gyhoeddi bod mwy na £8.3 miliwn o ariannu Loteri Genedlaethol wedi’i ddyfarnu trwy’r rhaglen Taclo Digartrefedd er mwyn lleihau digartrefedd yng Nghymru.

Mae tri grant gwerth cyfanswm o £8,353,816 wedi’u dyfarnu i dair partneriaeth a fydd yn gweithio ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector ac yn defnyddio’r grantiau ar amryw o gynlluniau gan gynnwys ymyrraeth gynnar a rhwystrad, gwasanaethau wedi hysbysu gan drawma arbenigol, a chefnogaeth i bobl sydd gyda’r anghenion mwyaf cymhleth.

Taclo Digartrefedd Ieuenctid yng Nghaerdydd

Yn gweithio ledled Caerdydd, bydd elusen ddigartrefedd Llamau yn arwain partneriaeth o fudiadau o ar draws y sector cyhoeddus a thrydydd sector gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a mudiadau tai trydydd sector lleol eraill. Byddant yn defnyddio’r grant o dros £3.3 miliwn i gyflwyno’r prosiect ‘My Way Home’ a chefnogi pobl ifanc sy’n profi neu wrth risg o brofi digartrefedd. Mae’r bartneriaeth yn bwriadu datblygu ac ehangu darpariaeth o fewn ymyrraeth gynnar a rhwystrad.

Frances Beecher, Prif Weithredwr Llamau

Esboniodd Frances Beecher, Prif Weithredwr Llamau:

“Hoffem ni gyd ddweud diolch enfawr i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am godi’r ariannu hael yma i gyflwyno’r prosiect cydweithredol ‘My Way Homes’.  

“Ni allwn ddod â digartrefedd i ben os na ddown â digartrefedd ieuenctid i ben, gan fod bron 50% o oedolion yn profi digartrefedd yn gyntaf fel pobl ifanc. Am ormod amser, mae pobl ifanc wedi cael eu gwahaniaethu o ganlyniad i’w hymateb naturiol i’r trawma maen nhw wedi profi. Mae mynediad anhafal i wasanaethau, ac amgylcheddau lle dydy pobl ifanc ddim yn teimlo’n ddiogel ac wedi’u meithrin yn golygu eu bod yn ymddieithrio a gall digartrefedd ailadroddus ddigwydd.

“Bydd ‘My Way Home’ yn adnabod pobl ifanc wrth risg o ddigartrefedd er mwyn atal hyn rhag digwydd. Lle na allwn osgoi digartrefedd, rydym yn bwriadu gwneud hyn yn brin, cryno, ac anghylchol, darparu ystod ehangach o wasanaethau gwybodus am drawma ac wedi’i seilio ar bobl, fel gall pobl adael ddigartrefedd tu ôl am byth. Mae Llamau yn gyffroes iawn a’n falch i arwain ar y prosiect arloesol yma, gan weithio’n agos â’n partneriaid gwych i gyflwyno gwir newid i bobl ifanc ledled Caerdydd.”

Mae gan Llamau brofiad eang o gefnogi pobl sy’n profi digartrefedd ac esboniodd un buddiolwr; “Dydyn nhw [Llamau] ddim ond yn cefnogi chi oherwydd eu swydd nhw, ond oherwydd eu bod yn becso. Maen nhw wedi bod trwy broblemau eu hun mewn bywyd ac felly’n gallu uniaethu â phobl ifanc. Mae’n ei wneud yn haws i ofyn am gymorth.”

Cyfleoedd hyfforddiant i bobl ledled Gwent

Bydd elusen ddigartrefedd a chysgu allan Y Wallich yn arwain ar bartneriaeth £3 miliwn o fudiadau sector cyhoeddus a thrydydd sector ledled Gwent a datblygu model menter gymdeithasol wedi’i chynllunio gan bobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd. Bydd y prosiect yn darparu hyfforddiant a chyfleoedd cyflogadwyedd i fuddiolwyr, gwella’r mynediad i wasanaethau gwybodus am drawma arbenigol i gefnogi anghenion cymhleth ystod eang o fuddiolwyr, a helpu cryfhau perthnasau rhwng tenantiaid a pherchnogion tai.

Bydd prosiect Gwent yn cynnig cefnogaeth cyfoedion ac hyfforddiant

Dywedodd Gareth Jones, Arweinydd Gweithredu Strategol De-ddwyrain Cymru yn y Wallich:“Mae’r pandemig wedi bod yn her anferth i bobl sy’n profi digartrefedd, ond rydyn ni wedi ymateb i’r galw er mwyn cadw pobl yn ddiogel. Fodd bynnag, rydyn ni nawr yn disgwyl i nifer fwy o bobl fod mewn perygl o ddigartrefedd. Rydyn ni yn y Wallich wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau ac awdurdodau lleol sy’n meddwl yr un fath â ni, er mwyn ymdrin â’r heriau ôl-bandemig newydd sydd o’n blaenau.   

“Mae’r prosiect hwn yn anelu at atal digartrefedd drwy gynorthwyo pobl i gael gwaith a gwella mynediad at gyngor a chymorth. Drwy atal digartrefedd a chreu cymunedau gwydn, mae gobaith am well dyfodol.” 

Bydd y bartneriaeth yn cael ei gyflwyno gan y Wallich a phartneriaid gan gynnwys Ymddiriedolaeth St Giles, Cymorth i Fenywod Cyfannol, Tai Pawb, Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cyngor Bwrdeistrefol Sir Caerffili.

Helping those most in need in Swansea and Neath Port Talbot

Bydd y Wallich hefyd yn arwain ar bartneriaeth £2 filiwn o fudiadau trydydd sector, sector cyhoeddus, a sefydliadau addysgiadol ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i gefnogi pobl sydd gyda’r anghenion mwyaf cymhleth. Bydd y prosiect yn creu mecanwaith i gefnogi cysylltedd ar draws gwasanaethau a newid systemau i alluogi Pobl ag anghenion niferus heb eu cwrdd sy’n gorgyffwrdd i dderbyn y gefnogaeth pryd a ble mae angen.

Bydd prosiect Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cael gwared o rhwystrau i fynediad at wasanaethau iechyd meddyliol

Dywedodd Debbie Mottley, Rheolwr Ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot y Wallich:   “Rydyn ni’n gwybod y gall ffactorau gwahanol arwain at ddigartrefedd, ond mae iechyd meddwl gwael a digartrefedd yn aml yn gysylltiedig. Yn y Wallich, rydyn ni’n gweithio gyda mwy na 9,000 o bobl bob blwyddyn. Mae llawer ohonyn nhw wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gyda rhywfaint o drawma, trawma cymhleth a thrawma cyfansawdd.   

“Bob dydd, rydyn ni’n gweld bod trawma sydd heb gael ei ddatrys yn effeithio ar allu unigolyn i reoli perthnasoedd a chynnal cyflogaeth neu denantiaeth yn sefydlog. Heb ddatrysiad, gall trawma arwain at ddigartrefedd.  Mae’r prosiect hwn yn gyfle go iawn i ymdrin â hynny.”

Ynghyd a’r Wallich, bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno gan wyth partner cyflwyno allweddol gan gynnwys Crisis, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Barod, Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ac Include Hub.

Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru at Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:

“Mae’r partneriaethau yma’n dangos y rôl hollbwysig mae gweithio ar draws sectorau yn cyfrannu er mwyn taclo digartrefedd. Gall digartrefedd effeithio ar unrhyw un, a gall ddigwydd am amryw o resymau, ac rydyn ni’n falch i fedru cefnogi’r nod ar y cyd o wneud digartrefedd, yn brin, fyrhoedlog a anghylchol. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30m bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU ac mae prosiectau fel y rhain yn dangos y gwahaniaeth hanfodol maen nhw’n cyfrannu i gymunedau.” 

Yng ngwanwyn 2022 bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyhoeddi manylion ail rownd y rhaglen a fydd yn cynnig £3m o arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer targedu digartrefedd mewn ardaloedd gwledig.

Esboniodd John Rose, “Rydym yn cydnabod bod y tri phrosiect cryf rydym wedi ariannu hyd yma wedi’u lleoli mewn ardaloedd trefol a bod digartrefedd yn broblem sy’n effeithio ar bobl ym mhob rhan o Gymru. Dyma pam mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dewis ymroi £1.5 mhilion ychwanegol o ariannu Loteri Genedlaethol i helpu mynd i’r afael â’r broblem. Mae hyn yn golygu bydd cyfanswm o £3 miliwn ar gael i dargedu digartrefedd gwledig yn y rownd nesaf, gan ddod â’n cefnogaeth gyfan ar gyfer digartrefedd trwy’r rhaglen bwysig yma i £11.5 miliwn.”

Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr misol https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/about/newsletter i gadw’n hysbys am yr holl newyddion a digwyddiadau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s