Oes gennych chi syniad am brosiect cymunedol? A yw’r syniad wedi cael ei ddatblygu gyda’r bobl yn eich cymuned? Os felly, efallai y byddwch chi’n gallu gwneud cais i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am grant i droi eich syniad am brosiect yn realiti.

Fel cyllidwyr eraill, ni allwn roi grantiau i unigolion. I fod yn gymwys i wneud cais am arian gennym, mae angen i chi fod yn sefydliad nid er elw yn y DU. Nid oes angen i chi fod yn elusen gofrestredig i wneud cais, er enghraifft gallech chi hefyd fod yn grŵp cymunedol neu wirfoddol, yn gwmni cyfyngedig drwy warant, yn ysgol, cyngor cymunedol neu dref neu gorff iechyd. Cyn i chi wneud cais, bydd angen arnoch:
- Dogfen lywodraethu, fel cyfansoddiad – Mae’n rhaid i’r ddogfen hon nodi enw a phwrpas eich sefydliad. Dylai hefyd nodi sut fydd yn gweithio, gan gynnwys sut y gall pobl ymuno; sut fydd eich pwyllgor yn gweithredu; pryd fyddwch chi’n cynnal cyfarfodydd; sut fydd eich materion ariannol yn cael eu rheoli a pholisi ar gyfer yr hyn a fydd yn digwydd os yw’r sefydliad yn cau (cymal diddymu). Gellir dod o hyd i gyfansoddiad enghreifftiol ar wefan y Comisiwn Elusennau.
- Pwyllgor neu fwrdd – Dylai hyn gynnwys o leiaf dau aelod nad ydynt yn perthyn nac yn byw yn yr un cyfeiriad. Ar gyfer grantiau dros £10,001, bydd angen o leiaf tri aelod arnoch.
- Cyfrif banc yn y DU – Mae’n rhaid i’r cyfrif fod yn enw eich sefydliad (fel y nodir yn y cyfansoddiad). Mae’n ofynnol bod o leiaf dau o’r aelodau pwyllgor nad ydynt yn perthyn yn cymeradwyo tynnu neu wario arian.
- Cyfrifon Ariannol Blynyddol – Os yw eich sefydliad yn dal i fod yn ei 12 mis cyntaf, rhowch amcanestyniad i ni’n rhestru unrhyw wario neu incwm disgwyliedig (gan gynnwys unrhyw gyllid yr ydych chi’n gwneud cais amdano) yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae’n rhaid i’r cyfrifon nodi enw eich sefydliad yn glir (fel y mae yn y cyfansoddiad) a dangos y dyddiadau dechrau a gorffen ar gyfer y cyfnod 12 mis y maent yn eu cynnwys (er enghraifft, 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021).
Dydw i ddim yn siŵr sut i greu sefydliad. Ym mhle alla i gael cymorth?
Gall creu eich sefydliad deimlo’n orlethol i ddechrau, ond y newyddion da yw bod llwyth o wybodaeth a chefnogaeth i’ch helpu.
Mae gwefan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn trafod y rhan fwyaf o’r pethau y mae angen i chi eu gwybod am ddechrau grŵp gwirfoddol, gan gynnwys y gwahanol fathau o strwythurau sydd ar gael, a’r hyn y gallai fod angen i chi ei ystyried wrth benderfynu a ddylech chi gofrestru eich sefydliad fel elusen neu beidio. Os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch, cysylltwch â’ch cyngor gwirfoddol lleol.
Iawn, mae hynny i gyd ar waith. Beth nesaf?
Ewch i’n gwefan i ddarganfod pa raglen grant sydd fwyaf addas ar gyfer eich prosiect. Ein prif raglenni yw:
- Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru sy’n cynnig grantiau o £300 i £10,000 ar gyfer prosiectau sy’n para hyd at 1 flwyddyn; a
- Pawb a’i Le: Grantiau maint canolig sy’n ariannu £10,001 i £100,000 ar gyfer prosiectau sy’n para hyd at 5 mlynedd.
- Pawb a’i Le: Grantiau mawr sy’n ariannu £100,001 i £500,000 ar gyfer prosiectau sy’n para hyd at 5 mlynedd.
Ein cyfrifoldeb yw ariannu prosiectau cymunedol sy’n helpu pobl a chymunedau i ffynnu. Os ydych chi am ariannu prosiect chwaraeon, celfyddydau neu dreftadaeth, ewch i Ganfyddwr Arian y Loteri Genedlaethol i ddod o hyd i’r corff ariannu mwyaf addas ar gyfer eich prosiect.
Pa fath o brosiectau ydych chi eisoes wedi’u hariannu?

Mae rhai enghreifftiau gwych o brosiectau yr ydym wedi’u hariannu drwy’r rhaglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru’n cynnwys grant £10,000 i SEAS Sailability i gynnal cyfres o sesiynau i bobl ag anableddau a’u teuluoedd a gofalwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr. Derbyniodd Autism Life Centres £9,900 i gyflogi Cydlynydd Prosiect i lywio eu prosiect rhandir sy’n darparu profiad gwaith i bobl ag awtistiaeth ac anghenion cymhleth.
Enghraifft o brosiect mwy a ariannwyd drwy’r rhaglen Pawb a’i Le yw grant £180,185 i Neuadd Llanrhymni i drosi cynwysyddion llongau i lefydd i’r gymuned eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau celfyddydol a hamdden.
Sut alla i ddysgu rhagor?
Os oes unrhyw gwestiynau gennych am wneud cais, cysylltwch â’n tîm cyngor ar 0300 123 0735 neu cymru@cronfagymunedolylg.org.uk. Maen nhw bob amser yn hapus i gael sgwrs a rhoi cymorth.